Gwybodaeth Gosod – Mandrake Linux 9.2
Ffurfweddiad Angenrheidiol
Mae gosod Mandrake Linux, yn y rhan fwyaf o achosion mor syml â
rhoi eich CD Gosod yn eich gyrrwr CDROM, ac ail gychwyn eich peiriant.
Darllenwch bwynt 1.
SYLW:
Dyma ffyrdd gwahanol i osod Mandrake Linux:
Mae modd cychwyn y gosodiad drwy'r CDROM Gosod. Yn yr rhan fwyaf o achosion, rhowch y CD yn y gyrrwr ac ail gychwyn y peiriant. Dilynwch y cyfarwyddid ar y sgrin: pwyswch [Enter] i gychwyn gosod, neu [F1] am gymorth pellach.
SYLW:
Ar rai cyfrifiaduron symudol, efallai na fydd y system yn ailgychwyn o'r CD. Os mae hyn yn digwydd, ceisiwch gychwyn o'r ail CD: mae modd cychwyn o hwnnw hefyd, ac mae'n defnyddio trefn 'mwy diogel'. Pan fydd yn gofyn amdano, newidiwch yr CD. Os nad yw'r ail CD'n cychwyn chwaith, dylech baratoi disg cychwyn. Gweler pwynt 2 am fanylion.
Os nad yw eich cyfrifiadur yn medru cychwyn gyda'r
CDROM ac ni wnaeth y dulliau blaenorol weithio, rhaid i chi wneud disg
cychwyn gyda Windows.
Dyma sut mae gwneud:
I gychwyn y gosodiad:
Os am unrhyw reswm nid yw'r dulliau blaenorol yn ateb eich angen (rydych am wneud gosodiad rhwydwaith, gosod o ddyfais pcmcia neu...), bydd angen i chi hefyd wneud disg cychwyn:
Lle mae xxxxx.img yn un o'r delweddau cychwyn:
cdrom.img | gosod o'r CD-ROM |
hd.img | gosod o'r disg caled |
network.img | gosod o ftp/nfs/http |
other.img | gosod a chynnwys gyrrwy anaml eu defnydd |
pcmcia.img | gosod o ddyfais pcmcia (rhybudd, mae' rhan fwyaf o addaswyr rhwydwaith pcmcia yn cael eu cynnal gan network.img) |
usb.img | gosod o ddyfeisiau USB: addaswyr rhwydwaith USB i gyflawni gosodiad rhwydwaithl, or CDROM/CDRW USB i gyflawni gosodiad cdrom |
blank.img | gosod eich cnewyllyn Linux eich hun |
Mae modd ii chi hefyd ddefnyddio'r modd testun i osod os ydych yn cael anhawster, am ryw reswm, gyda'r gosod graffigol rhagosodedig. I'w ddefnyddio pwyswch [F1] wrth sgrin croesawu Mandrake Linux, ac yna teipiwch text wrth yr annogwr.
Os fyddwch byth angen achub eich system Mandrake Linux, rhowch eich CDROM Gosod (neu'r disg cychwyn perthnasol) yn y peiriant, pwyswch [F1] wrth sgrin croesawu Mandrake Linux, ac yna teipiwch rescue wrth yr anogwr.
Gweler http://www.linux-mandrake.com/drakx/README am ragor o wybodaeth dechnegol.
Nodyn pwysig:
Mae'r cyfrif "gwraidd" yn rhoi mynediad dilyffethair i'ch system Linux. Peidiwch â'i ddefnyddio oni bai eich bod eisiau ffurfweddu neu weinyddu Linux. Ar gyfer defnydd bob dydd. Mae modd ffurfweddu'r cyfrif gyda "userdrake", neu gyda gorchmynion "adduser" a "passwd".
Am gefnogaeth gyda'r gosod, gweler rhestr wybodaeth Mandrake Linux a'r FAQs ar safle gwe: